Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mehefin 2015
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd
(Cymru)
1. Ar 8 Mehefin 2015, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 19 Mai 2015, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 19 Mai 2015, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 27 Tachwedd 2015.
4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 5 Chwefror 2016, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.